Am

Beth?! Mae Mark Thomas wedi bod yn ddigrifwr ar ei draed ers 40 mlynedd? Amhosib!! Pa mor hen ydych chi felly...? Gwaetha'r modd mae'n wir; mae un o'n digrifwyr anghonfensiynol hynaf yn dathlu 40 mlynedd o berfformio wrth iddo fynd â'i sioe newydd sbon ar daith yr hydref hwn.

Felly, dyma grynodeb o bopeth mae e wedi’i gyflawni hyd yma, mewn niferoedd; 40 mlynedd yn perfformio comedi, 8 gwobr am berfformio, 4 am waith hawliau dynol, ac 1 a ddyfeisiodd iddo’i hun, 6 chyfres o Mark Thomas Comedy Product (Channel 4), 6 llyfr a 5 sgript drama, 5 cyfres o’r rhaglen Manifesto ar gyfer Radio 4, 3 rhaglen Dispatches ar gyfer Channel 4, erlyn yr heddlu (ac ennill) 3 gwaith, curadu a llunio 2 arddangosfa gelf gyda'r artist Tracey Moberly ac 1 Record Byd Guinness am gynnal 20 protest mewn 24 awr. .

Os nad yw hynny'n ddigon, mae hefyd wedi cerdded 724km o amgylch hyd y Mur Israelaidd yn y Lan Orllewinol, wedi cael y clod am newid y gyfraith ar osgoi treth, wedi dechrau clwb comedi ym Mhalestina gyda Dr Sam Beale ac wedi ymgyrchu’n llwyddiannus dros bethau fel cydnabyddiaeth undebau llafur i weithwyr sinema a chael cwmnïau rhyngwladol i newid eu harferion. Rydych chi’n iawn, mae ’na fwy, ond rydych chi’n dechrau colli diddordeb ac rydyn ni’n brin o le. Felly gadewch i ni gloi wrth ddweud ei fod, yn gyffredinol, wedi bod yn brysur yn mwynhau ac yn cynhyrfu’r bobl gywir… rhywbeth y mae’n ei wneud yn dda iawn.

Yn syml, gallwch ddisgwyl rhywfaint o anhrefn llywodraethol a phersonol, jôcs, rhefru a darllediad personol ar gyflwr y genedl wrth iddo geisio troi ‘beth ar y ddaear sy’n digwydd’ yn awr gredadwy o gomedi.