Am

Hawlfraint llun: Columbia Pictures Industries Inc. Filmbank

Byddwch yn barod i fod ychydig yn ddrwg yr haf hwn...

Ymunwch â ni yn Amffitheatr Abertawe ar gyfer dangosiad ffilm awyr agored hudolus o Matilda The Musical y gellir cyd-ganu iddi. Dyma ddathliad bywiog a chalonogol o ddewrder, dychymyg a gweithredu dros yr hyn sy'n iawn.

Dewch yn barod i ganu ac ymunwch â phob gair!

Bydd amrywiaeth o fwyd a diod ffres ar y safle, neu dewch â'ch picnic eich hun ar gyfer prynhawn allan hyfryd.

 

Y ffilm:

Yn seiliedig ar stori hynod boblogaidd Roald Dahl, mae Matilda The Musical yn ffilm tystysgrif PG sy'n dilyn merch ifanc anghyffredin a chanddi feddwl disglair a dychymyg byw, sy'n meiddio newid ei thynged ei hun.

Yn llawn hiwmor, teimlad a chaneuon bythgofiadwy, mae'r stori ysbrydoledig hon sy'n addas i bob oedran yn fwy o hwyl fyth pan fyddwch yn ei rhannu.

Sinema Awyr Agored Amodau a Telerau