Am

Yr ymweliad cyntaf erioed!

Mae'r profiad byw gorau erioed i deuluoedd yn dod i Abertawe wrth i 'Megaslam' gyflwyno'u taith fyw wych ar gyfer 2025!

Mae 'Megaslam', a sefydlwyd yn 2009, yn cyflwyno dros 300 o ddigwyddiadau byw bob blwyddyn ar draws y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon ac Ynys Manaw, ac mae cynulleidfaoedd o dros 250,000 o bobl yn mwynhau'r 'sioe sy'n berffaith i blant' bob blwyddyn.

Yn ystod strafagansa 2 awr hollol unigryw i'r teulu, bydd cymeriadau bywiog 'Team Nasty' yn brwydro yn erbyn athletwyr carismatig 'Team Megaslam' i gyflwyno sioe a fydd yn diddanu'r teulu cyfan, wrth i bawb gefnogi eu hoff dîm yn ystod y cynhyrchiad byw rhyngweithiol ac unigryw hwn.

Disgwylir i'r gemau gwych gynnwys: Her 1 yn erbyn 1, digwyddiad rhagorol y Tîm Tag, 'Megaslam Rumble' a phrif ddigwyddiad arbennig y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ar y diwrnod, a fydd yn cynnwys y bencampwriaeth 'Megaslam'!

Byddwn yn gweiddi goleuadau, camera, amdani wrth i enwogion cyhyrog 'Megaslam' gyrraedd y llwyfan.

Dewch o hyd i'ch sedd ac ymgollwch mewn byd llawn HWYL wrth i chi wylio 'Megaslam' yn fyw a chreu atgofion arbennig gyda'r teulu!

Gwahoddir i'r gynulleidfa aros ar ôl y perfformiad i gwrdd â'r perfformwyr ar ôl y sioe fel rhan o'r profiad 'Megaslam VIP'!