Am

Cruising Through Menopause

Yn cynnwys Carli Norris (DoctorsHollyoaksEastenders), Maureen Nolan (The Nolans), Rebecca Wheatley (Casualty) and Daniele Coombe (seren y West End), byddwn yn cyflwyno taith olaf y sioe gerdd boblogaidd Menopause the Musical 2 - Cruising Through Menopauseo'r DU. Yn y dilyniant hynod ddoniol hwn i'n sioe hynod lwyddiannus, Menopause the Musical®, cawn hynt a helynt bywydau, cariadon a cholledion y pedwar cymeriad, bum mlynedd yn ddiweddarach, wrth iddynt fynd ar daith ar y moroedd mawr.

Mae Cruising Through Menopause, sy'n sôn am byliau o wres, newidiadau sydyn mewn hwyliau, pall ar y cof ac ennill pwysau, yn sioe wirioneddol ddoniol a didwyll ac yn ddehongliad calonogol o 'bleserau'r' menopos. Pan fyddwch yn mynd trwy gyfnod heriol yn eich bywyd ac yn gorfod wynebu pethau annisgwyl, mae'n anodd dod o hyd i ffrindiau go iawn a'u cadw. Ond ymunwch â ni a byddwn yn mynd â chi ar daith o hunanddarganfyddiad, cariad a chyfeillgarwch gyda thrac sain o ganeuon parodi hynod ddoniol yn gefn iddi!

I'r pedair merch hyn nid dechrau'r diwedd oedd y menopos, ond dechrau cyfeillgarwch hyfryd lle mae cariad yn goresgyn pob dim, a chyfeillgarwch byth yn pallu.

Felly, dewch yn llu a byddwn yn siŵr o wneud i chi chwerthin a llefain o bosib, wrth i chi ymuno â ni ar gyfer Menopause the Musical 2 - Cruising Through Menopause.