Am

Wrth i ni agor arddangosfa Merched ar Lestri yn Oriel y Mission dewch i wrando ar yr artist serameg Lowri Davies a’r bardd Elinor Gwynn yn sgwrsio am y profiad o gydweithio ar y prosiect hynod hwn. O’r syniadau cychwynnol i’r llwyfannu terfynol cawn ddysgu mwy am brosesau creadigol Lowri ac Elinor, yr heriau a’r cyfleoedd a gododd yn ystod y prosiect, ac am y modd y mae Merched ar Lestri wedi dylanwadu ar grefft a gyrfaoedd y ddwy ohonyn nhw.

Nodir bydd y digwyddiad hwn yn Gymraeg yn bennaf. Bydd y Sgwrs yn cael ei recordio ac fe fydd hwn i’w gael yn ddwy-ieithog.

---

Mae Merched ar Lestri yn dangos y cydweithio artistig rhwng yr artist cerameg Lowri Davies a’r bardd Elinor Gwynn. Mae’n dathlu bywydau saith merch, oll â chysylltiad dwys â Chymru ac o ardaloedd, oedrannau a chefndiroedd amrywiol ar draws ein gwlad.

Curadwyd gan Sioned Phillips.