Am

Digwyddiadau Sinema

Met Opera Live
gan Gioachino Rossini
Cenir yn Eidaleg ag is-deitlau Saesneg
215’ TBC (gan gynnwys un egwyl) (Encore)

Mae tymor perfformiadau byw mewn HD y Metropolitan Opera 2024-25 yn gorffen gyda darllediad byw o gomedi byrlymus Rossini. Mae'r mezzo-soprano o Rwsia, Aigul Akhmetshina, yn arwain ensemble ardderchog fel yr arwres afieithus, Rosina, ochr yn ochr â'r tenor Americanaidd, Jack Swanson, yn ei berfformiad cyntaf gyda'r Met fel ei chariad cudd, Cownt Almaviva. Y bariton Moldofeg, Andrey Zhilikhovsky, yw Figaro, y barbwr cyfrwys o Sevilla, gyda'r baswr-bariton Peter Kálmán fel Dr Bartolo a'r baswr o Rwsia, Alexander Vinogradov fel Don Basilio, yn cwblhau'r prif gast. Mae Gaicomo Sagripanti yn arwain cynhyrchiad afieithus Bartlett Sher.