Am
Cwmni o Abertawe yw Melomania Dance sy'n cyfuno theatr gyfoes, hip-hop a theatr gorfforol i adrodd straeon cignoeth, trawiadol. Mae'r gwaith, a ysgogir gan symudiadau gonest, hynod egnïol, yn feiddgar, yn ddynamig ac yn ddiedifar o real.
Mae Money Game yn ymdrin â chwymp Jimmy, cymeriad ariangar a chanddo awch diddiwedd am gyfoeth. Mae'r darn tywyll, pwerus hwn, sy'n ddiedifar o gorfforol, yn datgelu llygredd hunaniaeth pan ddaw arian yn dduw. Mae Money Game, gyda’i goreograffi ffrwydrol, ei ddelweddau trawiadol a’i neges daer, yn rhybudd ac yn ddrych - sy'n gofyn i'r gynulleidfa: faint ohonoch chi eich hunan y byddech chi'n ei werthu am yr addewid o gael mwy?