Am
Ymunwch â ni ar daith i chwilio am y Greal Sanctaidd! Wrth i chi gyrraedd, cewch becyn Foley. Dilynwch eich meistr ciwiau i ychwanegu effeithiau sain a gwneud un o'r ffilmiau mwyaf doniol erioed yn fwy doniol byth!
Roedd The Holy Grailgan Monty Python yn gampwaith comedi ac yn glasur. Mae'r Brenin Arthur, Brenin y Brythoniaid, yn wynebu amrywiaeth o rwystrau, gan gynnwys Marchogion Ni, Ffrancwr anfoesgar a chwningen sy'n lladd ar ei antur I chwilio am y Grael.
Dangosiad difyr i bobl difyr yw hwn. Rydym yn eich annog i wisgo i fyny ar gyfer y digwyddiad, gweiddi eich hoff linellau a chyrraedd Neuadd Brangwyn ar gefn eich ceffyl anweladwy.
RHYBUDD ALERGEDDAU: Mae'r pecyn Foley yn cynnwys eitemau bwyd. Rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau os oes gennych alergedd bwyd.
RHYBUDD: Mae'r sioe hon yn cynnwys delweddau sy'n fflachio.