Am

Ymunwch â dathliad pen-blwydd arbennig Mugenkyo yn 30 oed, gyda sioe arbennig iawn o guriadau mawr, gwledd i'r llygaid ac egni hanfodol.

Gan fynd â'r gynulleidfa ar daith 'mewn amser', taith wefreiddiol drwy eu 30 mlynedd, mae'r cyngerdd yn brofiad theatrig llawn, gyda choreograffi deinamig a rhythmau curiad calon yn cyferbynnu â seinluniau atmosfferig.

Fel grŵp taiko hynaf Ewrop, mae Mugenkyo yn cael eu cydnabod yn eang fel arloeswyr y ffurf gelfyddydol gyffrous hon, gan gyffroi cynulleidfaoedd mewn miloedd o berfformiadau ledled y byd, ac maen nhw bellach yn dychwelyd gyda'u taith fawr gyntaf yng ngwledydd Prydain mewn bron i bum mlynedd.

Yn y cyfamser, mae Mugenkyo wedi bod yn brysur ar brosiectau megis cydweithio ar "World of Gods", prosiect uchelgeisiol gyda Cherddorfa Jazz Genedlaethol yr Alban, yn ffilmio ar gyfer y ffilm Hollywood "Tin Soldier" yng Ngwlad Groeg gyda Jamie Foxx a Robert DeNiro, pythefnos yn Expo y Byd yn Dubai, Gemau Olympaidd Tokyo gyda BBC TV, 26 dyddiad yn Fringe Adelaide, y prosiect "Fire & Light" ar safle penodol, gweithdai a pherfformiadau ar-lein rheolaidd, ynghyd ag ailadeiladu eu stiwdio breswyl bwrpasol.

Yn 2024 maen nhw nôl ar y ffordd gyda pherfformiad trydanol ac ysgogol o sgil, stamina ac enaid, mewn pryd ar gyfer y dathliad pen-blwydd arbennig hwn! Peidiwch â'i golli!

"This show is not one to be missed.Edinburgh Evening News

"Lightning-fast synchronisation & complex rhythms on huge barrel-sized instruments. Hypnotic and primal, the show is an entrancing display of physicality, precision and discipline.The List