Am
Mae Mumbles A Cappella yn dychwelyd i Neuadd Brangwyn gyda dathliad o gerddoriaeth Nadoligaidd a hwyl yr ŵyl. Bydd y gyngerdd flynyddol boblogaidd hon yn cynnwys caneuon traddodiadol a chyfoes a sain gyfoethog corau oedolion a phlant, a bydd hefyd yn cynnwys y soprano glodwiw o Gymru Madlen Forwood, fel unawdydd gwadd.