Am

Mae'r digwyddiad gair llafar hwn yn daith sy'n archwilio lleoliad unigryw Abertawe fel dinas ar yr arfordir. Mae Steve Balsamo, sy'n enwog am berfformio mewn theatrau a sioeau cerdd yn y West End, yn ymuno â'r bardd arobryn, Guinevere Clark o gwmni buddiant cymunedol Poetry Into Light i rannu cyfres arbennig o gerddi newydd sy'n llawn straeon o'r môr a'r tir a fydd yn ymdrin â chof, lle a theulu. Mae'r perfformiad hwn, sy'n ymgorffori cerddoriaeth acwstig gan Steve, yn dathlu llwybr cerddi i ganeuon a geiriau sydd wedi'u gwreiddio mewn atgofion beunyddiol ac atgofion plentyndod am SA1. Nod y perfformiad hwn yw ysbrydoli cysylltiadau dyfnach â llwybrau Abertawe a dathlu'r awyrgylch, y bobl, y pŵer a'r potensial yn ein dinas.

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025