Am

Ysgrifennwyd a chynhyrchwyd gan: Tigerslane Studios

Cyfarwyddwyd gan: Graham Watts

Mae Murder Trial Tonight yn dychwelyd ar ôl pedwar tymor blaenorol y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer gyda'r achos mwyaf gwefreiddiol hyd yma.

Mae Murder Trial Tonight V: Death in the Familyyn dod â stori wir iasol a syfrdanodd y byd i'r llwyfan. Mae mam a gwraig ffyddlon yn cael ei llofruddio yn ei chegin ei hun - ac mae aelod o'i theulu yn cael ei gyhuddo.

Yn ystod y profiad llys hwn y gellir ymgolli ynddo, byddwch chi'n dod yn rhan o'r rheithgor. Gwyliwch a gwrandewch wrth i'r erlyniaeth a'r amddiffyniaeth gyflwyno pob tro annisgwyl, pob dadl a phob darn o dystiolaeth. Yna, eich tro chi yw ef i benderfynu. Byddwch yn gwneud dyfarniad yn fyw drwy ddefnyddio côd QR er mwyn helpu i benderfynu ar y canlyniad.

Ond y cwestiwn go iawn yw - oeddech chi'n gywir?

Ar ôl i ddyfarniad y gynulleidfa gael ei gadarnhau, bydd y gwirionedd y tu ôl i'r achos go iawn yn cael ei ddatgelu ar y sgrîn fawr. Byddwch yn barod am noson o densiwn, drama, a phenbleth moesol lle mae pob penderfyniad yn cyfrif.

Rhybudd: Bydd cynnwys annymunol a lluniau sy'n ymwneud â llofruddiaeth.