Am

Mae MWYHAU | AMPLIFY yn cyflwyno dawns o’r radd flaenaf sy’n symud rhwng hiwmor, defod, chwarae a dwyster, gan ddatgelu beth gall symudiad ei wneud—a sut y gall siarad yn uniongyrchol â ni.

Mae MWYHAU | AMPLIFY yn fenter gan Richard Chappell Dance sy'n archwilio ffyrdd newydd beiddgar o hyrwyddo dawns ledled Cymru. Gan ddod â Richard Chappell Dance, y coreograffydd a'r ddawnswraig, Aisha Naamani, a Groundswell Dance Company a Dawns Ieuenctid Sir Abertawe ynghyd, mae'r rhaglen yn gosod perfformwyr proffesiynol a chymunedol ochr yn ochr, gan ddathlu doniau lleol a chenedlaethol.

Mae Land Empathy gan Richard Chappell Dance yn creu byd cyfoethog, atmosfferig wedi'i lunio gan ein cysylltiad â natur. Mae No Idea What I’m Doing gan Aisha Naamani yn troi ansicrwydd oedolaeth yn unawd ffraeth, aflonydd sy'n cymysgu dawns gyfoes a tap, y gair llafar, cerddoriaeth electronig ac emyn corawl Cymreig.

Gyda'i gilydd, mae'r rhaglen yn cynnig cipolwg ar ddawns yng Nghymru heddiw — yn amrywiol o ran graddfa a phersbectif, ond wedi'i huno gan chwilfrydedd, crefft a phosibiliadau.Mae Richard Chappell Dance yn creu profiadau dawns cofiadwy a chyffrous i gynulleidfaoedd ledled y DU a thu hwnt ac mae wedi creu gweithiau yn y gorffennol gan y Royal Ballet and Opera, BBC Arts, a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.