Am

National Theatre Live
drama newydd gan Suzie Miller
cyfarwyddir gan Justin Martin
TBC’

Rosamund Pike a enwebwyd am Oscar (Gone Girl, Saltburn) yw Jessica yn y ddrama hirddisgwyliedig nesaf gan y tîm a oedd yn gyfrifol am Prima Facie.

Mae Jessica Parks yn Farnwr galluog yn Llys y Goron sydd ar anterth ei gyrfa. Y tu ôl i'r gŵn mae'n dwlu ar karaoke, mae’n wraig gariadus ac yn rhiant cefnogol. Pan fydd digwyddiad yn bygwth troi ei bywyd ben i waered, all hi gadw ei theulu ar y trywydd iawn?

Mae'r dramodydd Suzie Miller a'r  cyfarwyddwr Justin Martin  yn aduno yn dilyn eu ffenomenon fyd-eang, Prima Facie, gyda'r archwiliad ingol hwn o famolaeth a gwrywdod modern.