Am
Ydych chi’n barod i gael noson orau eich bywyd? Wel peidiwch â phoeni, mae'r dyn gyda'r laryncs aur yn ôl - ac mae'n anelu'n uchel.
‘Genuinely exciting’ ★★★★★ Telegraph
Ar ei daith ddiwethaf addawodd Nick Helm Super Fun Good Time Show i chi ac, heblaw am un dyn yn Hull, ni allai neb ddweud ei fod wedi gwneud unrhyw beth heblaw am gyflawni hynny. Y tro hwn, mae'r Trysor Preswyl Ryngwladol yn mynd i roi'r noson orau erioed o'ch bywydau truenus i chi, p'un ai rydych eisiau hynny neu beidio.
‘Terrific’ ★★★★ Times
Nick Helm yw'r diddanwr cyffredinol byw gorau o'i genhedlaeth, byw neu farw, ac mae'n dod i dref yn agos atoch chi. Beth rydych chi’n mynd i'w ddweud wrth eich wyrion? Eich bod wedi bod yn rhy brysur y noson honno? Wel, byddwch yn barod i’ch wyrion syllu arnoch chi’n gwbl geg agored. Byddwch yn cael eich ystyried yn ffwlbart llwyr. O hyn ymlaen, bob tro y byddwch yn dal adlewyrchiad o’ch hun mewn ffenestr car neu ar gefn hen DVD, byddwch chi’n meddwl eich bod yn berson cwbl wirion.
‘It ain’t pretty, but it is hilarious’ ★★★★ Chortle
Felly, ymlaciwch, calliwch a phrynwch docyn er mwyn tad. Maen nhw'n fforddiadwy ac mae egwyl i brynu lluniaeth ac i edrych yn syn ar gyd-aelodau o'r gynulleidfa i ofyn "A wnaeth e newydd newid ein bywydau?" Rho mewn. Fe. yw. dy. Dduw. Newydd. Gallwch redeg ond mae'n amhosib cuddio a dianc yn fyw.
'Brilliant one-liners and magnificent set pieces’ ★★★★ Independent
Ers dechrau comedi stand-up yn 2007, enillodd Nick sylw yn gyflym o bob rhan o'r diwydiant am ei gymysgedd doniol o jocs, straeon, cerddi a chaneuon. Mae wedi cael ei enwebu ddwywaith ar gyfer Gwobr Gomedi Caeredin, wedi rhyddhau dau albwm llwyddiannus, ac wedi cael ei enwebu ar gyfer BAFTA am y ffilm fer Elephant, y cyd-ysgrifennodd, cyfarwyddodd a serennodd ynddi. Mae wedi ymddangos hefyd ar Uncle, Loaded, Nick Helm's Heavy Entertainment, Live at the Apollo, 8 Out of 10 Cats Does Countdown a llawer mwy.
‘Helm is a comic tour de force, and then some’ ★★★★ Mail on Sunday
Canllaw Oedran 16+ (iaith gref)
Cyflwynwyd gan Plosive Live mewn cydweithrediad â Sophie Chapman Talent