Am
Nicolas Meier
Nos Iau 3 Medi, 8.15pm
Adain y Celfyddydau, Theatr y Grand Abertawe
Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy o jazz byd-eang gyda Nicolas Meier, y gitarydd o'r Swistir sydd wedi ennill bri rhyngwladol ac sy'n fwyaf adnabyddus am deithio'r byd gyda band Jeff Beck.
Mae Meier yn enwog am ei lais cerddorol unigryw, gan gyfuno dylanwadau traddodiadau Twrci a'r Dwyrain Canol â fflamenco, tango a jazz cyfoes i greu sain sy'n fywiog, yn llawn mynegiant, ac yn unigryw iddo ef.
Dewch i glywed ensemble o gerddorion eithriadol yn chwarae cerddoriaeth Meier:
· Nicolas Meier – Gitarau cribellog a heb gribell, glissentar
· Demi Garcia – Offerynnau Taro
· Tom Mason – Bas
· Richard Jones – Ffidil
· Alex Hutton – Piano
Gyda'i gilydd, maent yn creu seinweddau cyfoethog sy'n cyfuno rhythmau cymhleth â bathu alawon yn y man a'r lle.
Bydd perfformiad Meier yn mynd â chi ar daith hudolus drwy ddiwylliannau cerddorol amrywiol – peidiwch â'i golli!
Archebwch eich tocynnau nawr!
Mae'r perfformiad hwn yn rhan o Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2026. Gallwch weld y rhaglen lawn yn https://www.croesobaeabertawe.com/gwyl-jazz-ryngwladol-abertawe/
Band Arddwrn Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe - Archebwch ar gyfer pob un o'r deg sioe gyda thocyn am bris untro o £175 gyda'n gostyngiad aml-docyn (arbediad o £48 o'i gymharu â thocynnau unigol). Tocynnau'n brin. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i archebu yma!