Am
Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy o jazz byd-eang gyda Nicolas Meier, y gitarydd o'r Swistir sydd wedi ennill bri rhyngwladol ac sy'n fwyaf adnabyddus am deithio'r byd gyda band Jeff Beck.
Mae Meier yn enwog am ei lais cerddorol unigryw, gan gyfuno dylanwadau traddodiadau Twrci a'r Dwyrain Canol â fflamenco, tango a jazz cyfoes i greu sain sy'n fywiog, yn llawn mynegiant, ac yn unigryw iddo ef.
Dewch i glywed ensemble o gerddorion eithriadol yn chwarae cerddoriaeth Meier:
Nicolas Meier - Gitarau cribellog a heb gribell, glissentar
Demi Garcia - Offerynnau Taro
Tom Mason - Bas
Richard Jones - Ffidil
Alex Hutton - Piano
Gyda'i gilydd, maent yn creu seinweddau cyfoethog sy'n cyfuno rhythmau cymhleth â bathu alawon yn y man a'r lle.
Bydd perfformiad Meier yn mynd â chi ar daith hudolus drwy ddiwylliannau cerddorol amrywiol - peidiwch â'i golli!
Archebwch eich tocynnau nawr!