Am
Noson o farddoniaeth gyda'r bardd gwadd Natalie Ann Holborow, darlleniadau gan fyfyrwyr ac aelodau o'r gymuned, sesiwn holi ac ateb a rhwydweithio, a'r cyfan wedi'i gyd-guradu gydag Owen Sheers.
Mae Noson Farddoniaeth Uplands yn gydweithrediad newydd cyffrous rhwng Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe a Chwmni Buddiant Cymunedol Poetry Into Light, a gefnogir ar hyn o bryd gan Lenyddiaeth Cymru.
Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig lle bywiog a chefnogol ar gyfer rhannu, gwrando a chymdeithasu. Mwynhewch feirdd sefydledig yn darllen ochr yn ochr â lleisiau addawol o bob rhan o Brifysgol Abertawe a'r gymuned farddoniaeth leol.
Bydd hon yn noson farddoniaeth fisol gyda darlleniadau ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, a gynhelir yn ystafelloedd llawr uchaf Bar St James.
Wedi'i chyd-guradu gan: Yr Athro Owen Sheers (Prifysgol Abertawe), Dr Guinevere Clark (Cwmni Buddiant Cymunedol Poetry into Light) a CJ Wagstaff (ymgeisydd PhD Prifysgol Abertawe).
Ymholiadau neu i archebu slot darllen, e-bostiwch info@poetryintolight.org
Sylwer bod slotiau meic agored wedi'u cyfyngu i 3-4 bardd.
Am ddim i fyfyrwyr.