Am
Ymgasglwch gyda ni yng ngwres y tân, am brofiad swper unigryw o dan y sêr.
Yn swatio ymhlith gwelyau toreithiog yr ardd, byddwn yn gwledda ar blatiau rhannu wrth i ni ddathlu dyfodiad yr haf ac ysbryd cymuned.
Noson llawn bwyd tymhorol blasus a lleol yn addas ar gyfer llysfwytawyr a pescatarian.
Cerddoriaeth fyw wrth y tan gan Captain Cat and the Sailors a caneuon di-ri gan DJ lleol wedi ei ysbrydoli gan ganeuon am y mor.
Bydd y cwrs olaf yn cael ei weini ger y tân, i godi’n calonnau ac i sbarduno sgyrsiau newydd. (Bydd cyflenwad da o falws melys hefyd.)
....Tywydd gwlyb? Dim problem! Bydd y digwyddiad yn symud dan do i golonâd yr amgueddfa (lle mae ei naws ddiwydiannol yn tystio i’r ffaith ei fod unwaith yn seidin rheilffordd)
Bwydlen

Tocynnau - Mae prisiau’r tocynnau ar gyfer y swper hwn yn amrywio. Dewiswch y pris sydd fwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau.
£26 – Safonol
£18 - Hygyrch
Cefnogir yr arddangosfa gan gefnogwyr hael People's Postcode Lottery.