Am
Gyda Paul Potts
Mae'r Opera Boys, sy'n cyfuno cerddoriaeth glasurol â genres poblogaidd eraill, yn falch iawn o gyhoeddi eu taith olaf, a fydd yn cynnwys y tenor byd-enwog ac enillydd cyntaf erioed Britain's Got Talent, Paul Potts.
Yn dilyn blynyddoedd o berfformiadau ar draws y byd y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer, mae'r Opera Boys yn ymuno â'r dyn a wnaeth swyno'r byd gyda'i glyweliad bythgofiadwy o Nessun Dorma. Mae'r cydweithrediad hwn yn addo noson o nodau rhagorol a harmonïau penigamp, a'r cyfuniad perffaith o opera, theatr gerdd a chlasuron pop modern.
Daeth Paul Potts yn enw cyfarwydd yn 2007 ar ôl iddo ennill y gyfres gyntaf erioed o Britain's Got Talent. Ers hynny, mae wedi rhyddhau albymau y gwerthwyd miliynau o gopïau ohonynt, wedi perfformio dros 1,500 o sioeau mewn 45 o wledydd, ac wedi ysbrydoli'r ffilm fywgraffiadol One Chance.
Mae'r Opera Boys yn grŵp adnabyddus sy'n cyfuno cerddoriaeth glasurol â genres poblogaidd eraill. Mae'r grŵp yn cynnwys dynion blaenllaw o'r West End yn Llundain a Broadway. Maent wedi perfformio ar gyfer y teulu brenhinol, wedi ymddangos ar deledu cenedlaethol ac wedi perfformio mewn theatrau a neuaddau cyngerdd llawn ar draws y byd, gan ganu harmonïau pedwar rhan perffaith a rhoi perfformiadau unigol yn eu harddull unigryw eu hunain.
Peidiwch â cholli'r daith hon, sef eich cyfle olaf i ddweud hwyl fawr!