Am

Yn Out of this World, arddangosfa unigol fawr gyntaf yr artist o waith newydd ers ei henwebu am Wobr Turner, mae Heather Phillipson yn cofnodi dilyniant o amgylchiadau sonig ac atmosfferig sy'n cyfleu awyrle, awyrofod a’r gofod. Gan ymateb i gyfathrebiadau annaearol radar, sonar a ffenomenau awyr anhysbys, mae Phillipson yn llenwi orielau Glynn Vivian â synau awtomataidd wedi’u tiwnio a delweddau wedi’u disylweddu sy’n arnofio ac yn pylsadu, gan greu’r hyn y mae hi’n ei alw’n ‘niwl gweledol ac acwstig’. Mae'r niwl hwn, fel rhai agweddau ar ryfela, yn rhithweledol - yn cynhyrchu drychiolaethau, rhagfynegiadau a ffantasmagoria. Trwy roi sylw i sain fel grym sy’n trawsgyweirio deinameg ffisegol ac affeithiol, mae Out of this World yn mapio maes dirgrynol sy’n gweithredu bron yn feteorolegol.

Mae Out of this World yn rhan o Gronfa Etifeddiaeth14-18 NOW yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM), rhaglen bartneriaeth genedlaethol sy’n cynnwys dros 20 o gomisiynau gan artistiaid a ysbrydolwyd gan dreftadaeth gwrthdaro. Dan arweiniad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, crëwyd Cronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM yn dilyn llwyddiant 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau swyddogol y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r rhaglen gomisiynu gwerth £2.5 miliwn yn bosibl diolch i lwyddiant ffilm glodwiw Peter Jackson, They Shall Not Grow Old, a gomisiynwyd ar y cyd gan IWM a 14-18 NOW.