Am
Noson Baentio ac Yfed
Cyfle i chi fod yn greadigol - Does dim angen profiad!
Ymunwch â ni am noson hamddenol ac ysbrydoledig lle gallwch gael hwyl wrth greu celf! P'un a ydych chi'n beintiwr profiadol neu am roi cynnig ar rywbeth newydd, Noson Baentio ac Yfed yw'r ffordd berffaith o ymlacio a mwynhau.
️ Bydd ein hartist lleol cyfeillgar yn eich arwain trwy'r broses o greu campwaith fesul cam. Mae'r holl ddeunyddiau paentio wedi'u cynnwys - dewch â'ch dychymyg yn unig!
Gallwch fwynhau diod (neu ddau!) wrth i chi baentio - bydd ein bar yn gweini detholiad o winoedd, coctels a dewisiadau dialcohol trwy'r nos. Mae'n gyfuniad perffaith o gymdeithasu a chreadigrwydd.
Dewch ar eich pen eich hunain, dewch â chariad neu grŵp o ffrindiau - mae'n awyrgylch difyr, heb bwysau, lle mae croeso i bawb, ni waeth faint o sgiliau celf sydd gennych.
✨ Gallwch ddisgwyl y canlynol:
Darperir yr holl ddeunyddiau (cynfas, paent, brwsys, ffedog)
Sesiwn baentio dan arweiniad gydag athro proffesiynol
Diod am ddim gyda'ch tocyn
Cerddoriaeth wych, awyrgylch cyffrous a digon o chwerthin
Lleoliad: Brewstone
Dyddiad ac Amser: 29 Awst 6-8pm
Tocynnau: £25
Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael - cadwch le'n gynnar i osgoi cael eich siomi!
Dyma'ch cyfle i fod yn greadigol a chreu cynfas gallwch fod yn falch ohono!