Am
Tango Jazz Quartet
Nos Sul 6 Medi, 5.30pm
Ystafell y Cefnfor, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae'n bleser gennym groesawu'r Tango Jazz Quartet i Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni ar gyfer perfformiad hudolus sy'n cyfuno ysbryd tanllyd tango'r Ariannin â rhyddid a chreadigrwydd cerddoriaeth jazz. Perfformiodd y band am y tro cyntaf yng Nghymru yn yr ŵyl y llynedd, ac roedd aelodau'r gynulleidfa wrth eu bodd â'r perfformiad rhagorol.
Maen nhw'n bell iawn o'u cartref yn Buenos Aries ond gan eu bod nhw'n teithio o amgylch y DU eto'r hydref hwn, roedd yn rhaid i ni achub ar y cyfle a'u gwahodd i berfformio yn yr ŵyl eleni. Peidiwch â cholli'r Tango Jazz Quartet sy'n plethu angerdd, rhythm a drama cerddoriaeth tango draddodiadol â dyfnder harmonig a digymell jazz, gan greu sain hiraethus, fodern a hollol hudolus. Mae'r Tango Jazz Quartet wedi rhyddhau 10 albwm ac wedi teithio'n helaeth ledled y byd, gan berfformio ar rai o lwyfannau jazz enwocaf y byd.
Mae eu cerddoriaeth yn croesi ffiniau'n rhwydd, a nawr maen nhw'n dod â'r egni byd-eang hwnnw i Abertawe.
• Ezequiel Vargas – Drymiau
• Enzo Villar – Bas
• Horacio Acosta – Piano
• Gustavo Firmenich – Sacsoffon/Clarinét
P'un a ydych yn dwlu ar gerddoriaeth jazz, yn frwd dros gerddoriaeth tango, neu'n chwilio am brofiad cerddoriaeth fyw unigryw, mae'r perfformiad hwn yn addo prynhawn bythgofiadwy. Archebwch eich tocynnau nawr!
Mae'r perfformiad hwn yn rhan o Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2026. Gallwch weld y rhaglen lawn yn https://www.croesobaeabertawe.com/gwyl-jazz-ryngwladol-abertawe/
Band Arddwrn Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe - Archebwch ar gyfer pob un o'r deg sioe gyda thocyn am bris untro o £175 gyda'n gostyngiad aml-docyn (arbediad o £48 o'i gymharu â thocynnau unigol). Tocynnau'n brin. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i archebu yma!