Am
Dewch i brofi noson fythgofiadwy o gerddoriaeth jazz o'r radd flaenaf gyda Phedwarawd Paul Booth a gyflwynir gan Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe.
Bydd y sacsoffonydd arobryn Paul Booth yn cyflwyno'i bedwarawd cyffrous ar y llwyfan am noson o jazz soffistigedig llawn enaid ac egni.
Mae ei allu i gyfuno ag unrhyw gerddoriaeth o'i gwmpas a'i ddoniau fel aml-offerynnwr wedi arwain ato'n cael ei ddewis i berfformio gyda sawl artist enwog. Mae wedi teithio, perfformio a recordio ar draws y byd gyda pherfformwyr poblogaidd fel Steely Dan, Carlos Santana a The Eagles.
Ar hyn o bryd mae Paul yn perfformio'i gerddoriaeth ei hun, sy'n cyfuno traddodiad ag arloesedd gan greu cerddoriaeth gyfoethog sy'n denu cynulleidfaoedd ar draws y byd.
Bydd tair o gerddorion jazz mwyaf poblogaidd y DU yn ymuno â Paul:
-
Ross Stanley - Allweddell
-
Laurence Cottle - Bas Dwbl
-
Ian Thomas - Drymiau
Gyda'i gilydd fyddant yn cyflwyno perfformiad pwerus o ganeuon gwreiddiol sy'n cynnwys dylanwadau o bob cwr o'r byr a gwaith byrfyryr cyffrous.
Archebwch eich tocynnau nawr!
Archebwch ar gyfer pob un o’r 11 sioe â thocynnau am bris untro o £165 gyda’n gostyngiad VIP amleitem - 01792 475715.
Mae pob tocyn yn destun ffi archebu o 5%