Am
Mae Helios yn wahoddiad i archwilio'r haul yn agos drwy gelfwaith enfawr, trawiadol ym Mystwyr Abertawe gan yr artist byd-enwog o'r DU, Luke Jerram
Mae pob centimetr o'r cerflun chwe metr hwn yn cynrychioli 2,300km o arwyneb yr haul go iawn.
Mae golau a sain yn cyfuno i greu cyfle y gellir ymgolli ynddo i ymdrochi yn harddwch a phŵer yr haul y tu mewn i'r eglwys - wrth fyfyrio ar rôl hanfodol yr haul wrth lunio hinsawdd y Ddaear a chynnal bywyd.
Mae edrych yn syth ar yr haul yn beryglus, a gall niweidio ein golwg. Mae Helios yn darparu cyfle diogel i'r cyhoedd ei weld yn agos ac archwilio'r arwyneb eithriadol o fanwl, gan gynnwys smotiau haul, sbigylau a ffilamentau.
Gallwch weld smotiau haul cyfareddol a ffynonellau ffagliadau heulol wrth wrando ar drac sain a grëwyd yn arbennig sy'n cynnwys recordiadau byw gan NASA o ffynhonnell bŵer cysawd yr haul. Mae'r cerflun yn cynnwys ffynhonnell y ffagliadau heulol a berodd i Oleuni'r Gogledd fod yn weladwy o'r DU ym mis Mai 2024.
Helios, ym mytholeg yr Hen Roeg , yw'r duw sy'n personoli'r haul. Roedd yn gyrru cerbyd rhyfel pedwar ceffyl ar draws yr awyr bob dydd, gan roi oriau a thymhorau i'r ddaear.
Mae'r gosodwaith yn uniad o ddelweddaeth solar, golau haul a sain amgylchynol a grëwyd yn arbennig ar ei gyfer gan Duncan Speakman a Sarah Anderson.
Casglwyd y ddelweddaeth ar gyfer y celfwaith gan ddefnyddio ffotograffau o'r haul a ddarparwyd gan yr astroffotograffydd Dr Stuart Green (a dynnwyd rhwng mis Mai 2018 a mis Mehefin 2024) ac arsylwadau NASA o'r haul, gydag arweiniad gan yr Athro Lucie Green, gwyddonydd solar o Goleg Prifysgol Llundain.
Cyd-gomisiynwyd Helios gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gŵyl Cork Midsummer, Eglwys Gadeiriol Lerpwl, Old Royal Naval College a Choleg Prifysgol Llundain.
Mae ymarfer amlddisgyblaethol Luke Jerram yn cynnwys creu cerfluniau, gosodweithiau a phrosiectau celfyddydau byw. Mae Jerram, sy'n byw yn y DU ond sydd wedi bod yn gweithio'n rhyngwladol ers 1997, wedi creu nifer o brosiectau celf arbennig sydd wedi cyffroi ac ysbrydoli pobl o gwmpas y byd. Yn 2019, etholwyd Luke Jerram yn Gymrawd y Royal Astronomical Society.
Mae Helios yn dilyn celfweithiau eraill Luke sy'n ymwneud â seryddiaeth, sef Museum of the Moon, Gaia, a Mars.
my-helios.org
#CelfwaithHelios