Am
Mae Peppa Pinc a'i ffrindiau yn ôl gyda sioe lwyfan fyw newydd sbon!
Mae aelod newydd o'r teulu ar y ffordd ac mae'r teulu cyfan yn brysur yn paratoi. Mae gwaith adeiladu ac addurno i'w wneud, ac mae angen eich help ar Peppa Pinc, Mami Mochyn, Dadi Mochyn a George i gael popeth yn barod cyn i'r babi, Evie, gyrraedd! Mae cymaint i'w wneud - a fyddan nhw'n llwyddo i wneud popeth mewn pryd?
Mae Peppa Pig's Big Family Show yn llawn cerddoriaeth, antur a syrpréisys i blant bach. Dyma'r cyflwyniad perffaith i'r theatr.