Am

Sut rydym yn cael profiad go iawn o ddiwylliant –  drwy weld, clywed, arogli neu symud? Mae'r artist Sahar Saki yn gwahodd cynulleidfaoedd ledled de a gorllewin Cymru i archwilio treftadaeth Persia mewn ffordd hollol ymdrochol – lle ceir ymdeimlad dwys o farddoniaeth, cerddoriaeth a chelf. Mae #PersianTour yn arddangosfa amlsynhwyraidd sy'n datblygu ac sy’n trawsnewid orielau'n fannau sy'n ymgorffori diwylliant Persiaidd.

Mae pob lleoliad yn “Iran fach” lle mae barddoniaeth, caligraffeg, cerddoriaeth, dawns, a hyd yn oed arogleuon Persiaidd yn creu amgylchedd sy'n gwahodd cynulleidfaoedd i ymwneud â'r diwylliant y tu hwnt i’r ochr weledol. Caiff pob oriel ei thrawsnewid yn waith celf byw, gyda Saki yn paentio barddoniaeth Bersiaidd yn uniongyrchol ar y waliau mewn caligraffeg fawr.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys barddoniaeth gyfoes Iran, perfformiadau dawnsio byw, cerddoriaeth Bersiaidd, a gweithdai rhyngweithiol, gan alluogi ymwelwyr i gymryd rhan mewn caligraffeg a dylunio patrymau traddodiadol Persiaidd.  Bydd arogl dŵr rhosyn hefyd yn llenwi'r gofod, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn profi diwylliant Persia drwy eu holl synhwyrau.

Mae #PersianTour yn fwy nag arddangosfa: mae'n ddathliad, yn daith ac yn fan cyfarfod diwylliannol. Gwahoddir cynulleidfaoedd yn gynnes i ymroi eu holl synhwyrau a chymryd rhan yn y profiad trawsnewidiol hwn.