Am

Peter Finnemore, Arian, aelwyd, atgofion

Dydd Gwener 16 Hydref 2026 - Dydd Sul 3 Ionawr 2027
10:00 am - 4:30 pm

Glynn Vivian gyda’r Hwyr: 15 Hydref 2026, 5:30pm – 8:00pm

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyflwyno Arian, aelwyd, atgofion, arddangosfa unigol fawr newydd gan yr artist Cymraeg Peter Finnemore (g.1963, Sir Gaerfyrddin, Cymru), sy’n dod â chorff uchelgeisiol o gelfweithiau newydd at ei gilydd. Mae’r arddangosfa hon yn bennod arwyddocaol ym mherthynas artistig pedwar degawd Finnemore â’i gartref deuluol, Gwendraeth House, yng Nghwm Gwendraeth, Gorllewin Cymru.

Mae Arian, aelwyd, atgofion, a ddatblygwyd drwy archwiliad parhaus o le, cof, dychymyg a materoldeb, yn defnyddio archwiliad yr artist o’i gartref teuluol fel porth ar gyfer datgelu naratifau sy’n cysylltu cenedlaethau o hanes teulu, profiad personol ac arfer artistig. Yn ganolog i’r prosiect mae diddordeb yn y ffordd rydym yn cynrychioli ac yn deall y byd o’n cwmpas, gan wneud cysylltiadau rhwng ffotograffiaeth, paentio a gwrthrychau a deunyddiau bob dydd.

Gan ddefnyddio cefndir ei deulu mewn paentio a phapuro fel ysbrydoliaeth, mae Finnemore yn defnyddio deunyddiau a thechnegau masnach i gwestiynu’r gwahaniaethau traddodiadol rhwng crefft a chelfyddyd gain. Mae haenau o bapur wal, paent a deunyddiau addurno a gasglwyd o’r cartref yn cael eu trawsnewid yn gelfweithiau cyfoes, gan annog y gynulleidfa i weld deunyddiau domestig cyfarwydd mewn ffyrdd newydd.

Mae’r prosiect hefyd yn creu sgwrs ar draws cenedlaethau, yn enwedig rhwng Finnemore a’i hen ewythr Sidney Finnemore, peintiwr a phapurwr ac artist amatur. Mae bywyd a gwaith Sidney yn bwynt cyfeirio pwysig drwy gydol yr arddangosfa.

Gan adeiladu ar ddegawdau o arfer celf ffotograffig, mae Finnemore yn ymchwilio i rinweddau unigryw ffotograffiaeth, gan gynnwys tôn, amser a fframio lle. Ehangir ar y syniadau hyn drwy baentio, collage a fideo, gan greu arddangosfa haenog sy’n symud rhwng hanes personol a phrofiad cyfunol.

 


Mae Peter Finnemore yn artist llawrydd a chanddo brofiad helaeth ym maes celf gain ffotograffig ryngwladol, gan gynnwys cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis ym 1997.

Mae’r profiad hwn yn ymestyn i addysg, ymgynghoriaeth gelf, curadu, ymchwil, mentora, gweithdai a chomisiynau cyhoeddus. Drwy weithio ar brosiectau celf ffotograffig tymor hir sy’n ymwneud â’r cyflwr dynol, y cof cenedliadol, y cartref, natur, diwylliant, hanes a thirweddau ôl-ddiwydiannol, mae’n ceisio rhoi sylw i bethau nad ydynt yn amlwg fel arfer.

Mae arfer Finnemore yn cyfuno ffotograffiaeth ag arferion celfyddyd gain cyfoes mewn ffordd naturiol a diddorol. Caiff y prosiectau hyn eu mynegi fel ffotograffau (analog a digidol), celf fideo, gosodiadau, llyfrau artistiaid, celf testun, perfformiad, traethodau, gweithiau ar gynfas a gwrthrychau 3D.

Mae Finnemore wedi graddio o Ysgol Gelf Glasgow a Phrifysgol Michigan. Mae ei waith celf yn rhan o nifer o gasgliadau cyhoeddus, gan gynnwys; The Arts Council Collection, Amgueddfa Gelf Princeton, Canolfan Gelf Chrysler ac Argos Centre for Audiovisual Arts, Brwsel. Mae hefyd wedi’i gynnwys yn yr arolwg llyfrau ffotograffig rhyngwladol – ‘Photography Today, Contemporary Photography since 1960’ (2015). Mae’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.