Am
Bachwch eich tocynnau nawr ar gyfer antur fawr y Pasg - Peter Pan - gyda chast llawn sêr nas cyhoeddwyd eto!
Mae pob plentyn, heblaw am un, yn tyfu i fyny. Wrth chwilio am ei gysgod diflas, mae Peter Pan yn cwrdd â phlant y teulu Darling yn eu meithrinfa. Drwy lwch hudol Tinkerbell, mae Wendy, John a Michael yn gadael y ci Nana i fynd ar daith i Neverland, lle llawn lledrith sy'n gartref i blant coll, môr-forynion a'r môr-leidr mwyaf dieflig oll, Captain Hook! Gyda'r twpsyn Smee wrth ei ochr, mae Hook yn ceisio dial ar Peter Pan am fwydo ei law chwith i grocodeil a oedd am lyncu ei holl gorff. A fydd y bachgen bytholwyrdd yn cael gwared ar Captain Hook o Neverland am byth? A fydd plant y teulu Darling yn dychwelyd adref i Lundain? Ac, yn bwysicaf oll, a ydych yn credu mewn tylwyth teg?
Gydag effeithiau gweledol anhygoel, golygfeydd nodedig, gwisgoedd godidog, dawnsio dawnus a jôcs hynod ddoniol, mae'r sioe hon yn berffaith i'r teulu cyfan!