Am
Y dathliad gorau erioed o Theatr Gerdd.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu taith Phantoms of the Popera yn 2025 a 2026, y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer, mae G4 wedi ymestyn y daith tan 2027. Dewch i wylio pedwarawd canu ar y cyd gorau'r DU a sêr cyfres wreiddiol The X Factor, sydd wedi gwerthu dros dair miliwn o albymau ar draws y byd, yn ychwanegu eu sain unigryw at y caneuon theatr gerdd mwyaf poblogaidd.
Gyda chlasuron o Les Misérables, Phantom of the Opera, South Pacific, We Will Rock You, Oliver, Jersey Boys, Hamilton, Jesus Christ Superstar, The Greatest Showman, Miss Saigon, The Book of Mormon, The Lion King, My Fair Lady, Wicked, The Rocky Horror Picture Show a llawer mwy...
Ymunwch â Jonathan Ansell, Mike Christie, Duncan Sandilands a Michael Conway ar ras wyllt drwy ganeuon gwefreiddiol, sy'n cyflwyno'r holl emosiynau drwy alawon calonogol, baledi torcalonnus ac anthemau anhygoel.
Bydd caneuon hynod lwyddiannus o'r West End a Broadway yn cael eu cyflwyno gan bedwar o'r lleisiau gorau yn y byd. Mae G4 yn cyfareddu cynulleidfaoedd gyda'u presenoldeb deinamig ar y llwyfan, eu symudiadau dawns a'u sgiliau lleisiol, gan rannu noson a fydd yn sbarduno'ch holl emosiynau.
Tretiwch eich hun i sesiwn Cwrdd a Chyfarch cyn y sioe gyda G4 am 6.00pm, a fydd yn cynnwys nwyddau arbennig i bob gwestai.