Am
Dau ddyn, dau biano, un band anhygoel!
Mae Piano Men: Generations yn fwy na chyngerdd - mae'n daith gerddorol wefreiddiol ac emosiynol a arweinir gan ddeuawd tad a mab a band o'r radd flaenaf sy'n mynd â chynulleidfaoedd ar daith na fyddant yn ei hanghofio.
Mae Terry a Nick yn ganolog i'r sioe hon - tad a mab sy'n rhannu'r un cariad at gerddoriaeth Billy Joel ac Elton John. Mae eu perthynas hudolus ar y llwyfan yn ddilys, yn ddigymell ac yn deimladwy - weithiau'n ddoniol, bob amser yn wefreiddiol. Mae Terry'n gerddor profiadol a chanddo ddegawdau o brofiad cerddorfaol a roc a rôl, ac mae'n meddiannu'r llwyfan gydag awdurdod ac angerdd. Mae Nick yn dod ag egni ffres, carisma a llais pwerus, gan gyfuno ei arddull yn ddiymdrech ag arddull ei dad.
Mae'r band byw yn ategu'r cyfan, drwy ensemble gwefreiddiol o gerddorion elît sy'n sêr yn eu rhinwedd eu hunain. Mae'r unawdau gitâr, y llinellau bas a'r rhythmau yn creu'r perfformiad perffaith. Y drymiwr, Mike Richau, yw canolbwynt y band, ac mae ei sain a'i egni'n arwain y perfformiadau ar y llwyfan. Gyda'i sgiliau drymffyn anhygoel, ei egni di-baid a'i amseru perffaith, mae'n troi pob sioe yn gynhyrchiad o safon. Un eiliad mae'n perfformio rhythm tawel ar y drymiau, a'r eiliad nesaf mae'n perfformio unawd fyddarol, gyda drymffyn yn hedfan a'r dorf yn rhuo.
O'r cord cyntaf i'r encôr olaf, mae'r sioe yn daith gyffrous o gerddoriaeth eiconig, dawn arddangos ac ymdeimlad dwfn o etifeddiaeth. Y canlyniad? Dathliad o gerddoriaeth, teulu ac eiliadau bythgofiadwy sy'n rhychwantu degawdau ac yn dod â chenedlaethau at ei gilydd.
P'un a chawsoch eich magu yn gwrando ar gerddoriaeth o'r 70au, neu'n darganfod y gerddoriaeth hon am y tro cyntaf, mae sioe Piano Men: Generations yn addo perfformiad o safon i chi.