Am
Bydd Illyria yn cyflwyno perfformiad cyfareddol o Pinocchio yn lleoliad nodedig Castell Ystumllwynarth am brynhawn rhyfeddol o theatr awyr agored. Ymunwch â ni am 2pm ar 27 Awst 2026 i weld y stori galonogol hon yn yr awyr agored.
Ynghylch y sioe:
Mae pyped pren yn rhedeg i ffwrdd, gan obeithio canfod hwyl ac antur, ond yn hytrach na hynny mae'n canfod rheolwyr llethol, twyllwyr a phwysau cyfoedion. Wedi'i lethu gan arian, gemau ac atyniadau eraill sy'n tynnu ei sylw, sut gall Pinocchio byth fod yn fachgen go iawn pan fydd hyd yn oed celwyddau sydd â’r nod o gelu gwirioneddau lletchwith mor amlwg â'i drwyn ef?
Mae'r perfformiad hwn wedi'i gyflwyno gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Day's Peugeot.
Mae ein castell hanesyddol yn cynnig cefndir nodedig i theatr awyr agored. Dewch â chadeiriau, blancedi, bwyd a diod er mwyn mwynhau noson hamddenol yn yr awyr agored. Bydd bwyd a diod ar gael i'w prynu hefyd, a bydd modd llogi cadeiriau cynfas.
TOCYNNAU AR WERTH CYN BO HIR
Tocynnau:
Oedolion £17
Plant / Myfyrwyr / Consesiynau £15
Pasbort i Hamdden £9
Teuluoedd (2 Oedolyn / 3 Phlentyn)* £46
*Tocynnau teulu: Ychwanegwch ddau docyn i oedolion a thri thocyn i blant/consesiwn at y fasged. Caiff y gostyngiad ar gyfer tocynnau teulu ei ddidynnu'n awtomatig wrth dalu.
Mae pob tocyn yn destun ffi archebu o 5%.
Gellir llogi cadeiriau cynfas am £2.50 a cheir ad-daliad o £1, neu gallwch ddod â'ch cadair eich hun. #
Theatr Awyr Agored mewn cydweithrediad â Day's Peugeot
