Am

Bydd Illyria yn cyflwyno Pirates of Penzance gan Gilbert a Sullivan yn lleoliad nodedig Castell Ystumllwynarth am noson ryfeddol o theatr awyr agored. Ymunwch â ni am 7pm ar 26 Awst 2026 i weld y sioe gerdd ffraeth hon yn yr awyr agored.  

Ynghylch y sioe:  

Ganed Frederick mewn blwyddyn naid ar 29 Chwefror ac mae dan gontract i Frenin y Môr-ladron tan ei 21ain PEN-BLWYDD, nid ei 21ain flwyddyn. A all heddlu anobeithiol Penzance ei ddiogelu? Sut bydd yn goddef bywyd o droseddu tan iddo gyrraedd 84 oed? Ac a fydd ei gariad, Mabel, yn aros amdano tan hynny? Dyma sioe llawn melodrama ddoniol, dychan miniog a ffraethineb disglair sydd mor fywiog â phe bai wedi cael ei hysgrifennu heddiw.  

Mae'r perfformiad hwn wedi'i gyflwyno gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Day's Peugeot.  

Mae ein castell hanesyddol yn cynnig cefndir nodedig i theatr awyr agored. Dewch â chadeiriau, blancedi, bwyd a diod er mwyn mwynhau noson hamddenol yn yr awyr agored. Bydd bwyd a diod ar gael i'w prynu hefyd, a bydd modd llogi cadeiriau cynfas.  

Tocynnau: 

£17.97 Oedolyn*
£15.86 Consesiwn *
£9.51 PTL*
£48.62 Teulu* 

* Pob tocyn yn amodol ar ffi archebu o 5.7%.
Ceir gostyngiad o 10% pan fyddwch yn prynu tocynnau ar gyfer dau neu fwy o ddigwyddiadau theatr awyr agored.

Dan 16 oed, dros 60 oed a myfyrwyr a chanddynt gardiau adnabod. Bydd y rheini dan 3 oed ac yn iau. Gwybodaeth am docynnau: Ar gyfer teulu o bum person (dau docyn llawn a thri thocyn consesiynol), rhoddir gostyngiad awtomatig ar waith i'r pris i deulu wrth i chi dalu. 

Gellir llogi cadeiriau cynfas am £2.50 a cheir ad-daliad o £1, neu gallwch ddod â'ch cadair eich hun.  

Theatr Awyr Agored mewn cydweithrediad â Day's Peugeot



As You Like It 25 Awst
Pirates of Penzance 26 Awst
Pinocchio 27 Awst

Gallwch gael gostyngiad gwerth 50% oddi ar fynediad i Gastell Ystumllwynarth ar ddiwrnodau'r Theatr Awyr Agored! Dangoswch eich tocynnau i'r theatr wrth fynedfa'r castell.