Am
Mae Côr Meibion Pontarddulais yn hapus iawn i fod yn dathlu 65 o flynyddoedd yn 2026. Cynhelir ei gyngerdd blynyddol eleni yng nghwmni Jessica Robinson (Soprano) a Trystan Llŷr Griffiths (Tenor). Daw Jessica a Trystan o Sir Benfro ac maent yn siŵr o ddiddanu'r gynulleidfa gyda'u perfformiadau. Daeth Jessica yn ail yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn 2023 a bydd yn canu gyda'r côr am y tro cyntaf yn ystod y cyngerdd. Mae Trystan yn ffrind gwych i'r côr ac mae wedi perfformio mewn nifer o'i gyngherddau blynyddol.
Mae'r côr yn unigryw gan mai'r cyfarwyddwr cerddorol presennol, Clive Phillips, yw'r ail berson i gael y swydd ers i'r côr gael ei sefydlu 65 o flynyddoedd yn ôl. Y person cyntaf i lenwi'r swydd oedd Noel Davies a bu yn y swydd am 42 o flynyddoedd ac roedd Clive yn gyfeilydd iddo am sawl blwyddyn. Mae'r cyfeilydd presennol, David Last, wedi bod gyda'r côr ers peth amser ac mae'n aelod uchel ei barch o'r tîm cerddorol. Yr organydd ar gyfer y noson fydd Huw Tregelles-Williams, ffrind hirsefydlog i'r côr. Mae'r côr yn hapus iawn bod nifer o'r aelodau gwreiddiol yn perfformio ar y llwyfan o hyd. Mae ganddo draddodiad cryf o lwyddiant fel côr cystadleuol a'r gobaith yw y bydd hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod.