Am

Mis Rhagfyr 2018, mae Bansky yn cyflwyno anrheg Nadolig unigryw i Bort Talbot wrth i un o'i furluniau ymddangos ar garej gweithiwr dur lleol. Dros nos, mae'r dref yn denu sylw rhyngwladol! Yn 2024, mae Port Talbot yn y newyddion unwaith eto wrth i ffwrnais chwyth y dref gynhyrchu dur am y tro olaf. Dyma ddiwydiant sydd mor hanfodol i'r dref, yn creu cyfnod newydd o ansicrwydd.

Yn yr wythnosau ar ôl i gelfwaith Banksy ymddangos, aeth Paul Jenkins a Tracy Harris (Mumfighter) o gwmni Theatr3 i siarad â phobl y dref. Dechreuodd y cyfan fel prosiect i gasglu ymatebion pobl i'r Banksy cyntaf i ymddangos yng Nghymru, a thros chwe blynedd daeth yn bortread o gymuned ac yn deyrnged i'w hysbryd a'i chadernid. Nawr, daw lleisiau'r gymuned i flaen y llwyfan gyda chast o actorion proffesiynol yn adrodd eu geiriau.

Mae Port Talbot Gotta Banksyyn ddrama newydd am bobl, pŵer a chelf stryd. Mae'n ddathliad o gryfder cymunedau i wrthsefyll holl heriau bywyd. Ymunwch â ni wrth i bobl Port Talbot rannu eu stori nhw yn eu geiriau eu hunain yn y ddrama bwerus, deimladwy hon.

Cyfarwyddir gan Paul Jenkins.

Cefnogir gan National Theatre Studio a chyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.