Am
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Pride Abertawe, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, yn dychwelyd y gwanwyn hwn.
Cynhelir yr ŵyl, sy’n addo dod â chaneuon poblogaidd i’r ddinas, ar 17 Mai. Cynhelir yr orymdaith flynyddol am 11am o Wind Street a dilynir hyn gan ddiwrnod llawn adloniant byw yn Neuadd y Ddinas o 12pm.
Cofiwch – mae mynediad am ddim felly does dim angen tocyn.
Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan yn nigwyddiad eleni, felly os hoffech wirfoddoli yn ystod Pride, archebu stondin, ymuno â’r orymdaith Pride neu noddi’r digwyddiad, e-bostiwch info@swanseapride.co.uk