Am

POB TOCYN WEDI'I WERTHU!

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod ni wedi gwerthu pob tocyn ar gyfer perfformiad Pride and Prejudice y Theatr Awyr Agored nos Fercher. Ni fydd unrhyw docynnau ar gael ar y diwrnod.

 

Bydd Illyria yn cyflwyno Pride and Prejudice yn Theatr Awyr Agored Abertawe yng Nghastell Ystumllwynarth nos Fercher 13 Awst am 7pm.

Ynghylch y sioe:

Mae Mr Darcy yn mynd dan groen Lizzy! Neu ydy ef ...? All hi weld y tu hwnt i'w falchder ef – ac a allai ef oresgyn ei rhagfarn hi – i ystyried dyfodol posib gyda'i gilydd? Bydd theatr arobryn Illyria yn dychwelyd i ddathlu 250 o flynyddoedd ers geni Jane Austen mewn modd nodedig. Dewch â phicnic wrth i chi fwynhau ei ffraethineb!

Bydd ein castell hanesyddol yn cynnig cefndir nodedig ar gyfer perfformiad theatr Illyria o Pride and Prejudice ym mis Awst. Mae'r sioe'n siŵr o fod yn brofiad gwirioneddol unigryw a bythgofiadwy. Cyflwynir Theatr Awyr Agored gan Gyngor Abertawe.