Am

Trochwch eich hun mewn byd hudolus wrth i’r pedwarawd mesmereisiol CALAN lenwi’n llwyfan gyda’u brand cerddoriaeth gwerin-pŵer unigryw. Mae’r chwedl gerddorol yn cyfuno alawon a chaneuon clasurol â melodïau hynafol o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymunwch â ni am noson anhygoel sy’n cynnwys caneuon o’u halbwm disgwyliedig, ‘Nefydd’.

Mae gallu amryddawn CALAN yn anhygoel. O gyngherddau tŷ cyfeillgar i’r Neuadd Frenhinol Albert gorfawreddog, maent wedi dod yn arwyr gwerin modern eu hunain. Yn nodedig roeddent yn rhan o albwm mwyaf diweddar yr archseren opera Syr Bryn Terfel, gan nodi eu dychweliad buddugoliaethus i’r blaendir cerddorol.

Mae CALAN, sydd wedi ennill clod rhyngwladol, yn ymddangos gyda naratif newydd, swynol; mae chwedlau hynafol o chwedloniaeth Cymru yn dod yn fyw, gan fynd y tu hwnt i dudalennau llên gwerin i atseinio drwy alawon hudolus y delyn, gitâr, ffidil, acordion a chân. Mae ‘Nefydd’ yn adrodd straeon am dywysogion llofruddiol, lladron pen ffordd ac atgyfodiad buddugoliaethus calon llên gwerin Cymru.

Bydd CALAN yn gwmni Y Marcellas ar eu taith hydref.

Bydd y band tri darn electro acwstig o Ferthyr Tudful yn agor y sioe gyda’u set gyfredol o gerddoriaeth wreiddiol wedi’i hysgrifennu ganddyn nhw eu hunain a  fersiynau unigryw o rai o’u hoff glasuron, wedi’u dylanwadu gan amrywiaeth o artistiaid o Little Feat a Led Zeppelin i Florence and the Machine a First Aid Kit.

Mae’r band yn cynnwys dwy chwaer Bethan a Delyth McLean, yn canu harmonïau gwaed ac yn chwarae cymysgedd o gitâr, bas ac offerynnau taro a’u hewythr Karl Pulman yn chwarae gitâr arweiniol a drymiau.