Am
Cyfuniad o ddrama a cherddoriaeth gan yr awdur arobryn, Clare Norburn, a chyfarwyddwr y BBC a enwebwyd am BAFTA, Nicholas Renton (Mrs Gaskell's Wives and Daughters, Musketeers, Lewis).
1695: yn ystod ei salwch olaf, mae'r cyfansoddwr Henry Purcell (Niall Ashdown) yn dioddef rhithwelediadau breuddwydiol yn ystod twymyn lle mae'r gorffennol, y presennol a'i ddychymyg yn cyfuno ac mae ei ganeuon yn dod yn fyw. Caiff ei ystafell wely ei thrawsnewid yn theatr ac mae Purcell yn ailymweld â'i orffennol gan gynnwys atgofion o'i blentyndod, Tân Mawr Llundain a dechrau ei berthynas gyda'i wraig.
Yn rhan o'r ddrama fydd cyfansoddiadau offerynnol a lleisiol amrywiol gan Purcell, o faledi theatr cyffrous a dathliadau bywiog o gariad i gerddoriaeth Wyddelig draddodiadol, cân wallgof a chaneuon o'i operâu.
Bydd Niall Ashdown (Whose Line Is It Anyway?, The Comedy Store Players) yn chwarae rôl Purcell ochr yn ochr â'r actor a'r gantores Héloïse Bernard, Jo Lawrence ar y ffidil a thri pherfformiwr arall i'w gadarnhau.
Cefnogir y perfformiad hwn gan grant gan Sefydliad Continuo ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.