Am

Bydd y band sy'n chwarae gwahanol fathau o gerddoriaeth roc ddwys PVRIAH yn dychwelyd i'r Stryd Fawr gyda chast cefnogol anhygoel o fandiau

Mae PVRIAH yn cyflwyno sain sy'n herio genres sy'n cyfuno cerddoriaeth roc ddwys a sain seicedelig ddisglair. Mae'r band wedi'i ysbrydoli gan Kyuss, Pink Floyd a Black Sabbath ac mae gan PVRIAH y riffiau, y rhythmau a'r grefft i gyrraedd brig y genre yn y DU.

Mae PVRIAH, a sefydlwyd yn 2023 yn Abertawe, Cymru, wedi dod yn boblogaidd ym myd cerddoriaeth amgen ac mae gan y band fwy o ganeuon i'w rhyddhau a mwy o gynlluniau ar gyfer 2025; mae PVRIAH yn barod i greu cyffro ar draws y wlad. Byddwch yn barod amdano.

Hateful Dread - cerddoriaeth roc ddwys newydd o Abertawe.

Wredneck Ritual - band sy'n cynnwys 4 ffrind agos sydd â diddordeb yn yr un fath o gerddoriaeth fetel a ffurfiodd y band ar ôl meddwi.

Feverjaw - band roc amgen â thri aelod o Aberdâr/Caerdydd yn Ne Cymru. Mae'n boblogaidd ym myd cerddoriaeth De Cymru a thu hwnt. Mae'r band yn paratoi i ryddhau cerddoriaeth newydd yn dilyn ei ail albwm clodwiw, These Times of Trouble, a chwaraewyd cerddoriaeth y band ar orsafoedd radio gan gynnwys Radio X, BBC Radio, Amazing Radio ac eraill. Bydd cefnogwyr bandiau fel Manic Street Preachers, Feeder, Placebo, Foo Fighters, Idlewild ac eraill yn mwynhau cerddoriaeth y band hwn.