Am

Ewch i fyd hud a dychymyg yn y Digwyddiad Celf Calan Gaeaf ymdrochol hwn.

Gallwch greu eich pypedau cysgod neu ffigyrau plastisin eich hun sydd wedi’u hysbrydoli gan y cymeriadau hynod yn ein Casgliad Crochenwaith Abertawe. Gallwch gydweithredu ag angenfilod bach eraill i gynhyrchu dramâu theatrig, straeon dychrynllyd, ac animeiddiadau anhygoel yn ein parth perfformio.

Rydym yn eich annog i ddod mewn gwisg ffansi!

Mae’r gweithdy hwn yn rhan o’n prosiect parhaus Straeon Abertawe. Mae gan yr oriel gasgliad o dros 11,000 o gelfweithiau – adroddwch eich straeon a sicrhewch fod y casgliad yn ddiddorol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol!

 

£3.00 y plentyn

Rhaid cadw lle

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein.