Am
Mae'r secwinau'n fwy disglair, mae'r lleisiau'n uwch ac mae'r gystadleuaeth yn ffyrnig! Mae cynhyrchwyr y sioeau llwyddiannus "Drag Me to the Disco" a "Show With Balls!" yn cyflwyno perfformiad byw newydd sbon lle bydd sêr drag yn mynd benben wrth frwydro am oruchafiaeth.
Bydd ein difas disglair yn arddangos lleisiau pwerus, coreograffi campus a gwisgoedd gwefreiddiol wrth iddynt gamu i'r llwyfan. Gallwch ddisgwyl Whitney yn erbyn Mariah, Gaga yn erbyn Madonna, a Beyoncé yn erbyn Britney wrth i'r eiconau cerddorol gystadlu.
Dyma fwy na chyngerdd wrth i anthemau di-baid fynd â'ch bryd o'r dechrau tan y diwedd.
Pwy fydd yn cipio'r goron! CHI SY'N CAEL PENDERFYNU!