Am
Mae Rave On - The Ultimate 50s & 60s Experience yn dychwelyd gyda sioe newydd sbon!
Bydd y sioe yn dychwelyd am flwyddyn arall a bydd yn cynnwys mwy o ganeuon poblogaidd nag erioed o'r blaen. Gallwch fwynhau perfformiadau perffaith o'r caneuon mwyaf poblogaidd o'r degawdau a roddodd roc a rôl i ni.
O ddechreuad roc a rôl yn Sun Records ym Memphis, Tennessee i'r Goresgyniad Prydeinig a thu hwnt, maeRave On yn daith wefreiddiol trwy ddegawdau mwyaf chwyldroadol cerddoriaeth. Ymunwch â ni am noson gyffrous o rythmau bywiog, caneuon poblogaidd, gwisgoedd cyffrous, llwyfannu lliwgar a digon o ddawnsio!
Mae Rave On yn cynnwys caneuon gan Elvis Presley, Buddy Holly, Chuck Berry, The Beatles, Connie Francis, Little Richard, Roy Orbison, Lulu, The Beach Boys a llawer mwy. Camwch yn ôl mewn amser i brofi hanes cerddoriaeth roc a rôl mewn ffordd hollol newydd.
Bydd y sioe newydd sbon hon, sy'n cael ei pherfformio gan grŵp hynod dalentog o gerddorion ifanc sy'n dwlu ar gerddoriaeth y cyfnod hwn, yn cynnwys perfformwyr llwyddiannus o gynyrchiadau'r West End gan gynnwys The Buddy Holly Story, Million Dollar Quarteta Dreamboats & Petticoats.Bydd Rave On yn eich cludo yn ôl i'r 50au a'r 60au mewn modd dilys iawn gan addo profiad cerddorol hollol unigryw.