Am

Mae'r canwr bas dwbl Tom Moore a'r gitarydd rhythm Chris Nesbitt yn ymuno â Remi Harris, un o'r gitaryddion mwyaf cyffrous yn y DU, i gyflwyno noson gyfareddol o jazz a'r blŵs â gwreiddiau sipsi. Gan gyfuno doniau cerddorol â brwdfrydedd ac athrylith, bydd y triawd dynamig hwn yn cyflwyno sioe ledrithiol wedi'i hysbrydoli gan Django Reinhardt, Peter Green, Wes Montgomery, Jimi Hendrix a Joe Pass.

Mae Remi yn chwarae amrywiaeth o gitaryddion acwstig a thrydan, gan gyflwyno cymysgedd eclectig o gyfansoddiadau gwreiddiol, ffefrynnau jazz a threfniadau newydd o'i hoff alawon. Mae wedi teithio'r byd yn ogystal â pherfformio ym Mhalas Buckingham, Gŵyl Jazz Montreal, Proms yn y Parc y BBC yn Neuadd Albert gyda Jamie Cullum, ar y sianel deledu BBC 4 ac yn fyw ar sianeli radio 2 a 3 y BBC.