Am
Ymunwch â'r artist Ren Wolfe i greu gwisgoedd rhyfeddol a chael cyfle i wisgo i fyny ar set ddychmygol mewn ymateb i'r arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain!
Mae Ren Wolfe yn artist amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd.
Mae ei gwaith yn archwiliad swrrealaidd, llawen a herfeiddiol o sut gall pethau cyffredin fod yn hudol. Mae Ren yn creu byd esblygol o gymeriadau, symbolau a gofodau, gan dynnu ar draddodiadau carnifalau lle mae rheolau o ran normalrwydd yn cael eu gwrthdroi ac mae posibiliadau newydd yn dod i'r amlwg. Mae Ren yn disgrifio ei harfer fel gofalu abswrdaidd, ac mae hi'n cynnig lle i'w chynulleidfaoedd groesawu swyn a llawenydd fel ffordd radical o wrthwynebu.
AM DDIM. Yn addas ar gyfer pob oed. Rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.