Am

Cynhyrchiad Tall Stories, yn seiliedig ar y llyfr gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler.

Iggety ziggety zaggety zoom!

Neidiwch ar gefn yr ysgubell gyda'r wrach a'i chath yn addasiad difyr Tall Stories o Room on the Broom, y llyfr lluniau poblogaidd gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler.

Mae'r wrach a'i chath yn teithio ar eu hysgubell pan maen nhw'n codi ambell fodiwr wrth fynd heibio - ci cyfeillgar, aderyn gwyrdd arbennig a broga brysiog. Ond does dim lle i bump ar yr ysgubell hon, a - CRAC - mae'n torri'n ddau... ar yr un pryd ag y mae'r ddraig lwglyd yn ymddangos!

A fydd lle byth ar yr ysgubell i bawb? Cewch yr ateb yn y sioe hudol a enwebwyd am wobr Olivier i bawb sy'n 3 oed ac yn hŷn. Cyflwynir gan Tall Stories, crewyr theatr adrodd straeon dychmygus, lle mae unrhyw beth yn bosib.

Room on the Broom © Julia Donaldson ac Axel Scheffler 2002 - Llyfrau Plant Macmillan