Am

Digwyddiadau Sinema

The Royal Ballet
gan Christopher Wheeldon
180’ (egwyliau i'w cadarnhau) Darllediad o Berfformiad Byw

Mae bale cyfoes synhwyrus ac egni theatr gerdd yn cyfuno mewn pedwar gwaith byr arbennig. Fool’s ParadiseThe Two of UsUsAn American in Paris: pedwar gwaith yn dangos ehangder coreograffi anhygoel Cydymaith Artistig y Bale Brenhinol, Christopher Wheeldon.

Fool’s Paradise

Etheraidd a hudol, Fool's Paradise oedd yr enghraifft gyntaf o gydweithrediadau niferus Wheeldon â'r cyfansoddwr Joby Talbot. Cafodd ei greu yn 2007 ar gyfer cwmni Wheeldon, Morphoses, a'i berfformio am y tro cyntaf yn 2012 gan Y Bale Brenhinol.

The Two of Us

Mae caneuon hiraethlon Joni Mitchell yn gefndir i berfformiad cyntaf yn y DU The Two of Us, deuawd o agosrwydd a dyhead. Cafodd ei greu yn 2020 ar gyfer yr ŵyl Fall of Dance yn Efrog Newydd ac roedd y cast gwreiddiol yn cynnwys y dawnswyr bale Americanaidd, Sarah Mearns a David Hallberg.

Us (Deuawd) 

Mae Us yn ddeuad tyner sy'n cael ei ddawnsio gan ddau ddyn. Cafodd ei greu yn 2017 ar gyfer BalletBoys a chaiff ei berfformio i gyfeiliant cerddoriaeth Keaten Henson.

An American in Paris (Bale) 

Mae'r Bale Brenhinol yn dathlu llwyddiant rhyfeddol Wheeldon mewn theatr gerdd drwy berfformio'r olygfa bale o'i sioe gerdd a enillodd wobr Tony, An American in Paris. I gyfeiliant alawon jazz Gershwin, ysbrydolwyd y sioe gerdd gan y ffilm o 1951 o'r un enw gyda Gene Kelly a Leslie Caron yn y prif rolau. Aeth y sioe gerdd ymlaen i ennill pedair gwobr Tony.  Mae'r sioe gerdd lawn yn adrodd stori’r rhamant sy'n datblygu rhwng y milwr Americanaidd Jerry Mulligan a dawnswraig fale Ffrengig, Lise Dassin. Y perfformiad bale hwn oedd dehongliad Wheeldon o un o'r golygfeydd mwyaf cofiadwy yn y ffilm – dilyniant estynedig lle mae'r ddau brif gymeriad yn dawnsio drwy Paris.