Am
gan Gieuseppe Verdi
Yn un o’i phartïon moethus, mae’r butain enwog o Baris, Violetta, yn cwrdd ag Alfredo Germont ac maen nhw’n syrthio dros eu pen a’u clustiau mewn cariad. Ond mae eu hapusrwydd yn fyrhoedlog wrth i realiti llym bywyd ddod i’r amlwg.
Yn llawn o rai o alawon enwocaf opera, mae cynhyrchiad hudolus a thyner y cyfarwyddwr Richard Eyre yn byrlumu gydag hudo ac emosiwn, gyda’r soprano Ermonela Jaho yn disgleirio fel yr arwres drasig Violetta.
Cenir yn Eidaleg ag is-deitlau Saesneg.