Am
Byddwn yn cwrdd ar draeth Bae Caswell ar ben y grisiau. Caswell Bay Road, Caswell SA3 3BS
Ymunwch â ni ar saffari pyllau trai dan arweiniad lle byddwn yn cerdded yng ngolau tortsh i gwrdd â rhai o'r creaduriaid sy'n byw ym Mae Caswell ac i arsylwi ar yr hyn maent yn ei wneud gyda'r hwyr!
Mae'n hanfodol bod pob cyfranogwr yn dod â'i dortsh/dortsh pen ei hun ac yn gwisgo dillad llachar os yn bosib.
Mae'n rhaid i blant fod yn 8 oed ac yn hŷn i gymryd rhan a rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn
Gwisgwch esgidiau glaw neu esgidiau cadarn addas eraill rydych chi'n fodlon iddyn nhw fynd yn wlyb
Gwisgwch ddillad priodol ar gyfer y tywydd a'r tir.
Gadewch eich rhwydi pyllau trai gartref gan y byddwn yn dilyn y Côd Glan Môr ac yn defnyddio'n dwylo a bwcedi yn lle (darperir tybiau)
Yn ddibynnol ar y tywydd
Parcio (ffïoedd yr gaeaf): Maes parcio Bae Caswell / Maes parcio Bryn Caswell