Am

Saffaris Glan Môr - dewch i archwilio bywyd morol cudd Gŵyr!

Ymunwch â ni am Saffari Glan Môr difyr ym mhenrhyn Gŵyr sy'n addas i'r teulu cyfan! Gallwch ddarganfod y bywyd gwyllt diddorol sy'n byw rhwng y llanw wrth i ni archwilio pyllau creigiau, glannau tywodlyd a holltau cudd ar hyd yr arfordir.

Dan arweiniad biolegwyr morol arbenigol, mae'r sesiynau rhyngweithiol hyn yn ffordd wych o ddysgu am grancod, anemonïau môr, sêr môr, gwymon a mwy. Bydd cyfle i chi gael profiad ymarferol wrth i chi roi cynnig ar adnabod gwahanol rywogaethau a deall sut maen nhw'n goroesi yn yr amgylchedd sy'n newid yn barhaus.

Galwch heibio i ddarganfod rhyfeddodau arfordir godidog Gŵyr. Mae gan bob llanw stori - beth fyddwch chi'n ei ddarganfod?

 

  • Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.
  • Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes
  • Gwisgwch esgidiau â gafael sy'n addas ar gyfer sgramblo ar hyd y glannau creigiog, esgidiau glaw neu esgidiau cerdded yn ogystal ag eli haul a het haul